Wedi'i chyllido a'i darparu'n falch gan Gyngor Abertawe gyda chymorth gan y Fargen Ddinesig


Arwain y gwaith gwerth £1 biliwn i adfywio Abertawe
Mae canol dinas Abertawe yn brosiect gweddnewid trefol mawr, gyda thros £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi ar draws y ddinas, gan alluogi Abertawe i wireddu ei photensial fel un o'r lleoedd mwyaf bywiog i fyw, gweithio, ymweld ac astudio ynddo yn y DU.Mae Bae Copr ar flaen y gad o ran adfywio uchelgeisiol y ddinas. Mae Cynlluniau ar gyfer Cam Un yn cynnwys arena a chanolfan gynadledda â lle ar gyfer 3,500 o bobl - i'w gweithredu ar sail hirdymor gan Ambassador Theatre Group - gwesty â 150 o ystafelloedd, parc arfordirol 1.1 erw, pont dirnod, gwell tir y cyhoedd a pharcio ceir a chartrefi newydd, ochr yn ochr â bwytai annibynnol a chyrchfan a darpariaeth fanwerthu. Mae cyfleoedd prydlesu cychwynnol bellach ar gael. Mae cyfleoedd prydlesu cychwynnol bellach ar gael.
CYFLEOEDD PRYDLESU'R CAM CYNTAF
Ynglŷn ag Bae Copr
Mae Cam Un Bae Copr yn cael ei gyllido gan Gyngor Abertawe, gydag elfen arena'r cynllun yn cael ei chyllido'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gronfa fuddsoddi gwerth £1.3 biliwn sy'n cynnwys cyllid gan Lywodraethau'r DU a Chymru a'r sector preifat ar gyfer prosiectau gweddnewid mawr yn y rhanbarth hwn yn Ne Cymru.

230,000
o ymwelwyr â'r arena newydd y flwyddyn

Dros £460 miliwn
o wariant twristiaeth y flwyddyn

600,000
o bobl o fewn 30 munud o amser gyrru

+10.4%
Disgwylir +10.4% o dwf yn y boblogaeth erbyn 2036
GWYLIWCH Y CGI I HEDFAN DROSODD
Y DIWEDDARAF
Affordable housing agreement signed as part of £1 billion Swansea regeneration
Swansea Council has signed an agreement with Pobl Group, Wales’ largest Registered Social Landlord, to manage 33 affordable apartments as part of Phase One of the Copr Bay regeneration project.
Fideo dramatig yn nodi awr o bwys i Abertawe
Nodwyd carreg filltir yn un o gynlluniau adfywio cyfredol proffil uchel mwyaf Cymru gan fideo dramatig a ryddhawyd ar-lein heddiw.

O’n traeth ysblennydd a’n tirnodau hanesyddol i’n prifysgolion a sefydliadau o’r radd flaenaf, mae Abertawe’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd nad ydynt wedi'u gwerthfawrogi'n iawn am gyfnod rhy hir. Ochr yn ochr â'r prosiectau trawsnewidiol eraill sy'n digwydd ar draws y ddinas, mae Bae Copr yn ddarn coll o'r jig-so a fydd yn denu mwy o bobl i ganol y ddinas, ac yn cryfhau ein bywiogrwydd economaidd yn fawr.
Rob Stewart
Arweinydd Cyngor Abertawe
Cyfleoedd prydlesu
Mae cyfleoedd prydlesu bellach ar gael ar gyfer Cam Un o Bae Copr, gydag unedau manwerthu a chaffi ar gael ym mloc Stryd Gwasael ger y bont nodwedd newydd, y 'Pafiliwn' i'w leoli yn y Parc Arfordirol newydd, a Sgwâr Dewi Sant.




